Yr Amgylchedd
Ystyriaethau amgylcheddol
Mae pren yn ddeunydd sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i wneud cynhyrchion pren mewn ffordd sy’n ychwanegu at y fantais honno drwy gyfyngu ôl troed amgylcheddol y prosesau cynaeafu, prosesu a dosbarthu. Felly, caiff ein holl goed crwn eu prynu o goetiroedd lleol cynaliadwy wedi’u hardystio gan FSC, sy’n golygu bod glasbrennau ifanc yn cael eu plannu wrth i goed aeddfed gael eu cwympo. Drwy ddefnyddio pren a dyfir yn lleol, rydym yn cwtogi ar gludo a gwnawn bopeth y gallwn i wneud ein gweithrediad cludo mor effeithlon ag y gallwn i gadw ein ‘hôl troed’ carbon gyn lleied â phosibl. Ac yn olaf mae’r cadwolyn a ddefnyddiwn, TANALITH®E. Mae’n cynnwys copr o ffynonellau wedi’u hailgylchu a triasolau bioddiraddadwy, sy’n golygu nad ydynt yn parhau yn yr amgylchedd. Darllenwch fwy.